Dewch o hyd i ni ar Facebook. Dilynwch ni ar Twitter.

Cynlluniau Hyfforddeiaeth – datblygu pobl, manteisio i’r eithaf ar eu potensial.

Arwyddbost yn dangos: cyflogaeth, prentisiaeth a choleg.Pobl Ifanc 16 ac 17 oed

Ymgysylltu â Hyfforddeiaeth – Isafswm o 12 awr ond rhaid mynychu 21 awr yr wythnos ar ôl pedair wythnos ar y rhaglen.

Hyfforddeiaeth Lefel 1 – 30 awr yr wythnos (uchafswm o 40 awr yr wythnos).

Enillwch arian wrth ddysgu a helpu i ddatblygu gyrfa wych hefyd!

Mae cyfleoedd cyffrous i gael lleoliadau hyfforddi ar gael i rai 16-17 oed.

Enillwch arian wrth ddysgu’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i lwyddo. Fe gewch gymwysterau cydnabyddedig, cefnogaeth lawn yn ystod hyfforddiant a rhagolygon gwych am yrfa ar y diwedd.

Bydd gennych hawl i lwfans o £30 am fynychu’r cwrs Ymgysylltu a hyd at £50 am Lefel 1 yn dibynnu ar yr oriau a fynychwch.

Mae’r Hyfforddeiaeth yn cynnig cyfle i chi flasu gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau ac yn rhoi cyfle i chi hefyd weithio tuag at gymhwyster. Mae’n rhoi cyfle i chi arddangos potensial ac addasrwydd drwy brofiad gwaith wedi ei strwythuro.

MAE MANTEISION Y CYNLLUN YN CYNNWYS:

SUT Y BYDDWCH YN CAEL EICH TALU

Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi drwy system restr gyflogau Cyngor Sir Powys. Gwneir hyn gan ddefnyddio system trosglwyddo banc, sy’n golygu bod yn rhaid i chi fod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Mae’n ofynnol i chi gyflwyno cofnod presenoldeb bob wythnos, oherwydd mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i’ch lwfans gael ei phrosesu. Bydd cyflwyno’r cofnod yn hwyr yn golygu y bydd eich tâl yn cael ei oedi. Bydd eich lwfans yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.

MYNYCHU

Mae mynychu yn hyblyg, ond bydd yn ofynnol i chi fynychu’r dysgu am isafswm o 12 awr yn ystod y pedair wythnos gyntaf ac yna am isafswm o 21 awr, (heb gynnwys un egwyl ar gyfer pryd o fwyd bob dydd ac yn cynnwys oriau yn mynychu cyrsiau dyddiau astudio). Seilir eich lwfans hyfforddi ar nifer yr oriau a fynychwch e.e. £30 am fynychu’r cwrs Ymgysylltu a hyd at £50 ar gyfer Lefel 1.

GWYLIAU

Pan ydych ar y rhaglen mae gennych hawl i 2 ddiwrnod o wyliau am bob mis calendr. Mae gennych hawl hefyd i wyliau statudol fel Gwyliau Banc.

““Diolch i bawb – rydych chi’n gweithio mor galed i sicrhau ein bod yn mwynhau profiad cyfeillgar … fe wnaethoch chi’n siwr bod pob diwrnod yn un llawn hwyl.”

Mae Dysgu Seiliedig ar Waith wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy
Lywodraeth Cynulliad Cymru

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop - cliciwch i ymweld â gwefan ESF.

Brig y dudalen