Dewch o hyd i ni ar Facebook. Dilynwch ni ar Twitter.

Beth all Hyfforddiant Powys ei wneud i chi?

Yn unol â’n Datganiad o Fwriad:

Datblygu pobl. Uchafu potensial.

Mae Hyfforddiant Powys yn ymdrechu i gynnig cyfleoedd dysgu, hyfforddi, cyrsiau cymhelliant a gwasanaethau i gynorthwyo unigolion i gyflawni eu nodau a’u dyheadau. Ac, ambell waith, cynorthwyo i geisio datrys beth yw'r nodau a’r dyheadau hynny!

Gallwn gynnig Prentisiaethau Modern a Diplomâu Sgiliau Modern i Oedolion mewn nifer o ffyrdd galwedigaethol gwahanol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i: Gweinyddiaeth, Gofal Plant a Thechnoleg Gwybodaeth, i roi’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch yn y gweithle modern.

Gallwn ddarparu cyrsiau byr ar y defnydd o gyfrifiaduron neu, yn fwy cyffredinol, ar bethau megis rheoli amser, pendantrwydd, Sgiliau Cyflwyno a llawer mwy er mwyn i chi gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch.

Gallwn gynnig hyfforddiant cymhelliant, cymorth i chwilio am swydd, ac ar rai achlysuron, mentora, i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’r cyfeiriad cywir neu i ddatblygu eich potensial

Gallwn eich cynorthwyo i gael mynediad i gyllid, yn amodol ar gymhwyster, i ariannu neu ariannu yn rhannol, eich cymwysterau a hyfforddiant, a gallwn eich cynorthwyo i ddod i hyd i brofiad gwaith i gefnogi eich datblygiad gyrfa.

Gallwn hyd yn oed ddarparu gwasanaethau TG, megis: cefnogaeth cyfrifiadur personol a rhwydwaith, cynllunio cronfa ddata, cynllunio, adeiladu a chynnal Gwefan, i gynorthwyo sefydliadau gyda’r dasg gymhleth o ddatblygu system TG effeithiol

Yn fyr, gall Hyfforddiant Powys eich cynorthwyo i ddatblygu eich hun fel person, uchafu eich potensial ac i wneud y gorau o’ch bywyd, er mwyn eich hunan ac i’r sefydliad yr ydych yn gweithio.

Brig y dudalen