Lleoliadau Hyfforddiant Powys
Mae Hyfforddiant Powys yn medru cynnig ystafelloedd cyfarfod, switiau ac ystafelloedd hyfforddi TG i’w llogi yn y rhan fwyaf o’n Canolfannau Hyfforddi.
Llandrindod
Mae
canolfan Llandrindod wedi’i lleoli yng nghanol y dref, yn agos at
archfarchnad leol (gweler map lleol). Mae
chwech ystafell ar gael i’w llogi gan gynnwys swît gynadledda
fawr, swît ganolig ar ffurf Ystafell Gyfarfod, dwy ystafell gyfarfod
llai, ystafell gyfweld/swyddfa sengl a swît TG pwrpasol.
Mae gan nifer o’r ystafelloedd fynediad band eang i’r Rhyngrwyd a bydd y rhan fwyaf yn caniatáu i chi gysylltu â’r rhyngrwyd byd eang ar eich gliniadur drwy gyfrwng ein system ddiwifr, ar gais.
Cliciwch yma am wybodaeth
Machynlleth
Mae
Canolfan Machynlleth wedi'i leoli yn adeilad Canolfan Hyddgen sydd wedi
ennill sawl gwobr 'eco-gyfeillgar' ac yn gyfagos i Ysgol Bro Ddyfi (gweler
map lleol). Mae yna tair ystafell i'w llogi, gan gynnwys ystafell fawr
gynhadledd, ystafell hyfforddi ganolig, ac ystafell bwrpasol TG.
Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron gyda mynediad i'r Rhyngrwyd fand eang.
Cliciwch yma am wybodaeth.

