Gwasanaethau TG
TG ac Hyfforddiant perthnasol fel y rhestrir isod
Cynllunio Gwefan | Cynllunio Cronfa Ddata | Cefnogaeth Gweinyddwr a Bwrdd Gwaith
Cynllunio Tudalen ar y We a Gwefan
Gall Hyfforddiant Powys gynnig gwasanaeth Gwefan cynhwysfawr gan gynnwys: Tudalennau Gwe wedi’u dylunio â graffeg, adeiladu a chynnal a chadw Safle, cofrestru Safleoedd ac `Enwau Parth ac adeiladu a chynnal cronfeydd data, ar gyfer llif gwybodaeth rhyngweithiol, megis ffurflenni digidol. Ceir enghraifft fechan o gynllun Safle isod.
Enghraifft o Wefannau
Bydd y cysylltiadau isod yn eich arwain at rai Wefannau sydd wedi cael eu hadeiladu i ddangos y math o osodiad a gwaith dylunio graffeg y gellir eu gwneud ar gyfer y defnyddiwr busnes. Adeiladwyd y safleoedd i wella cyflymder ac effeithiolrwydd ond maent yn parhau i fod yn ddeiniadol ac yn denu llygad y cleient. Mae’r safleoedd a welir fel enghreifftiau yma yn ddatrysiadau e-fasnach sy’n cael eu cynnal ar gronfeydd data ar-lein sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ryngweithio gyda’r safle a phrynu nwyddau ar-lein. DS Mae rhain yn safleoedd sy’n gweithio felly os ydych yn prynu nwyddau ar-lein byddwch yn derbyn anfoneb ac yn derbyn y nwyddau.
Performance Clothing, Pencampwriaeth Ralio'r Byd, Speedway Grand Prix aChasgalid Rasio Aston Martin yw enghreifftiau o'r math o waith y gellir eu gynhyrchu.
Am fanylion cysylltwch gyda ein Cefnogaeth TG ar 01597 824510
Cynllunio, Adeiladu a Chynnal y Gronfa Ddata
Mae Hyfforddiant Powys yn arbenigo ar gynllunio ac adeiladu systemau cronfeydd data ar weinyddwr. Mae’r cronfeydd yn defnyddio eich Porwr Gwe fel y rhyngwyneb ac yn storio eich data ar weinyddwr a gynhelir ar y We – felly mae modd i chi gael mynediad at eich data yn ddiogel o unrhywle yn y byd, mor belled â bod gennych gyswllt i’r We.
Hefyd ar gael y mae strwythur tabl perthynol, dilysu ffurflen a gweinyddwr, mynediad diogel ac awtomatiaeth ar-lein.
Am fanylion cysylltwch gyda’n Cefnogaeth TG ar 01597 824510
Cefnogaeth Rhwydwaith, Gweinyddwr a Chyfrifiadurol
Gall Hyfforddiant Powys roi pris i chi ar gyfer nifer fawr o systemau rhwydwaith, gweinyddwr a chyfrifiadurol, gosodiad a chefnogaeth gan gynnwys:
- Rhwydweithiau Ardal Lleol Gwifr a Di-wifr
- Sefydlu ADSL a chyfluniad
- Gweinyddwr, caledwedd a meddalwedd (Linux, Macintosh a Microsoft)
- Rheoli cronfeydd data a chefnogaeth
Am fanylion cysylltwch gyda’n Cefnogaeth TG ar 01597 824510

