CTG - Cymhwyster Technoleg Gwybodaeth
Amcan
y brentisiaeth hon yw i roi mantais i chi yn o fewn y farchnad swyddi heddiw.
Heddiw, beth bynnag yr ydych yn ei wneud, boed yn y gwaith neu adref, mae
angen i chi ddeall a medru defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd
CTG yn rhoi y sgiliau a’r hyder i chi ddefnyddio ystod eang o TG a
chymwysiadau meddalwedd, a fydd yn eich cynorthwyo i uchafu eich potensial
yn y gweithle. Mae CTG yn gymhwyster sefydliedig (a gydnabyddir yn genedlaethol)
ar gyfer pobl sy’n defnyddio cyfrifiaduron yn y gwaith. Mae ei gynllun
‘dewis a dethol’ unigryw yn eich galluogi i ddewis unedau ar
draws ystod eang o lefelau sgiliau mewn un cymhwyster yn unig.
“Mae cael staff sydd yn ymgymryd â’r cymhwyster hwn wedi gwella eu sgiliau craidd TGCh yn sylweddol. Maent yn fwy hyderus wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd amrywiol a systemau gweithredu newydd. Mae’n hanfodol bod y gweithlu yn medru defnyddio TGCh yn effeithiol i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg sydd ar gael iddynt, i wella eu sgiliau TGCh a’u sgiliau cyffredinol fel datrys problemau a chyfathrebu gwybodaeth.” – Aprille Saunders, Rheolwr Cyffredinol, Hyfforddiant Powys.
Sylwadau gan y ddysgwraig, Bridget Forbes:
“Penderfynais gyflawni fy nghymhwyster CTG oherwydd roeddwn o’r
farn y byddai o fantais i mi yn ystod fy ngwaith bob dydd.
Pan ddechreuais weithio am y tro cyntaf gyda Hyfforddiant Powys, roedd fy sgiliau TG yn gyfyngedig dros ben. Drwy ddilyn cwrs dysgu sydd wedi’i strwythuro rwyf wedi gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau, a hefyd fy hyder.
Mae hyn yn golygu fy mod wedi cynyddu fy ngallu i ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd, sydd yn golygu fy mod yn medru cyflawni fy ngwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon. Bellach rwyf yn medru gwneud mwy o waith, mewn llai o amser, a gyda gwell canlyniadau.”
Er mwyn ennill prentisiaeth bydd angen i chi gwblhau’r canlynol:
City & Guilds
- Diploma ar gyfer Defnyddwyr TG
Sgiliau Hanfodol Cymru:
- Cymhwyso Rhif
- Cyfathrebu
- ICT
Bydd staff cyfeillgar a chymwysedig yn darpau hyfforddiant, cefnogaeth, asesiadau parhaus, arsylwadau ymarferol ac aseiniadau i chi. Mae portffolio o’ch tystiolaeth yn ofynnol.


