Dewch o hyd i ni ar Facebook. Dilynwch ni ar Twitter.

Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) yn gyfres o gymwysterau a fydd yn disodli y cymwysterau canlynol yng Nghymru ym Medi 2010, Sgiliau Allweddol, Rhifedd//Llythrennedd Oedolion a Sgiliau TGCh ar gyfer Bywyd (SHC yw’r hyn sy’n cyfateb yng Nghymru i Sgiliau Gweithredol)

Bydd cyfres SHC yn cynnwys yn y lle cyntaf tri maes sgiliau :

• Cyfathrebu
• Cymhwyso Rhif
• Gwybodaeth a Thechnoleg Cyfathrebu

Mae SHC yn golygu mwy na darllen, ysgrifennu a mathemateg yn unig: mae hefyd yn golygu y gallu i roi y sgiliau hyn ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, yn ogystal â dysgu sut i gynllunio, gwneud, adlewyrchu ac adolygu.

At bwy y mae’r cymwysterau wedi’u hanelu?

Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn berthnasol i bob dysgwr o bob oed a gallu, a maent yn rhan ganolog i bron a bod yr holl raglenni addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

• Prentisiaethau Modern a Sylfaen Prentisiaethau Modern
• Y Fagloriaeth Gymreig
• Sgiliau Hanfodol Cymru

Bydd yn cynorthwyo i wella sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando, rhif a TGCh y dysgwr.

Strwythur y Cymhwyster

Yn Lefel 1 ac uwch, bydd holl gymwysterau SHC yn cael eu hasesu drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth. Bydd y lefel mynediad yn cael ei hasesu gan weithgaredd adolygol unigryw a gwblheir mewn awyrgylch dosbarth. Bydd yr asesiad yn cynnwys cyfres o dasgau perthynol ar thema benodol, pob un â phwrpas clir.

Ar bob lefel mae’n rhaid i’r asesiadau neu’r porffolios ddilyn y gweithdrefnau dilysu Mewnol / Allanol fel a nodir gan City & Guilds.

Yr oriau dysgu dan arweiniad ar gyfer Sgiliau Hafodol Cymru yw 60 awr (mae pob cymhsywter SHC yn 6 credyd o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru - FfCChC).

Os am weld y safonau, ewch i wefan Sgiliau Hanfodol Cymru.

Sut fydd y cymwysterau yn cael eu daraparu a’u hasesu?

Gellir darparu cymwysterau SHC mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys , gan gynnwys dysgu sydd wedi’i mewnblannu yn ogysta a dysgu arwahanol.

Gellir darparu’r cymhwyster mewn awyrgylch ddosbarth fel dysgu arwahanol neu fel rhan o raglen ddysgu sydd wedi’i mewnblannu. Gellir ei ddarparu hefyd yn y gweithle.

Asesir lefelau 1,2 a 3 drwy gyfrwng portffolio, gyda thystiolaeth yn deillio o weithgaredd pwrpasol mewn unrhyw gyd-destun sy’n berthnasol i’r dysgwr.

Asesir y lefel mynediad drwy gyfrwng set o dasgau cymeradwy sy’n cael eu goruchwylio; mae City & Guilds yn darparu toreth o asesiadau a gymeradwywyd, er mae modd i ganolfannau greu rhai eu hunain. Mae’r asesiadau ar bob lefel yn destun i ddilysu mewnol ac allanol

Dilyniant

Mae cymwysterau SHC yn creu un ysgol o ddilyniant ar gyfer pob dysgwr ym mhob sefyllfa; maent yn amrywio o Mynediad 1 i Lefel 3. Bydd pob swydd yn elwa o’r gymhwyster hon – mae’r sgiliau hyn yn ofynnol er mwyn llwyddo mewn pob agwedd o waith, wrth ddysgu ac mewn bywyd.

Mae Dysgu Seiliedig ar Waith wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop - cliciwch i ymweld â gwefan ESF.

Brig y dudalen