Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Beth
yw ADCDF?
Mae ADCDF yn golygu:
- y cysylltiadau rhwng cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd a rhwng ein bywydau ni ein hunain a bywydau’r bobl hynny drwy’r byd;
- anghenion a hawliau'r cenedlaethau presennol a’r dyfodol;
- y cysylltiadau rhwng adnoddau pwer a hawliau dynol;
a'r
- goblygiadau lleol a byd-eang o bopeth yr ydym yn ei wneud a’r gweithredoedd y gall unigolion a sefydliadau eu cyflawni mewn ymateb i faterion lleol a byd-eang.
Mae ADCDF yn rhan o fywyd bob dydd. Felly ni ddylid ei ystyried fel baich ychwanegol neu bwnc y dylid ymdrin ag ef ar wahân, ond yn hytrach yn ddull integredig, sefydliad cyfan i arwain drwy esiampl ac addysgu dysgwyr.
Mae ADCDF yn fwy na chorff gwybodaeth – mae’n golygu gwerthoedd a sgiliau. Mae’n ethos y medrir ei fewnblannu, yn agwedd i’w feithrin, yn system gwerthoedd ac yn ffordd o fyw.
Mae ADCDF yn cysylltu’r amgylchedd gyda’r bobl sydd yn byw ac yn elwa oddi wrth yr amgylchedd. Mae’n cydnabod fod y byd yn anghyfiawn ac yn anghyfartal, ond bod modd ei ffurfio a’i newid gan agweddau, gwerthoedd ac ymddygiad y bobl sy’n ei phoblogi.
Rydym yn anelu at ddatblygu ein gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a gwerthoedd ynglyn â’r materion hyn sy’n ymwneud a’n dyfodol.
“Drwy ddysgu ysbrydoledig byddwn yn newid gwerthoedd pobl a dylanwadu ar eu penderfyniadau i gefnogi byw’n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Canolfan Hyddgen – Mae’r adeilad lle y lleolir Hyfforddiant Powys Machynlleth wedi ennill y Safon Passivhaus nodedig. Cliciwch ar y cyswllt i ddarllen erthygl ynglyn â Chanolfan Hyddgen.

