Cyrsiau Cyfrifiadurol
Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd |
Word | Excel | Access
| Powerpoint | Y We ac e-bost |
Cwrs sylfaenol i ddechreuwyr
| Adeiladu gwefan | Hyfforddiant, Gwybodaeth a Gwasanaethau Linux |Cyrsiau Arbennig, hyfforddiant un wrth un a hyfforddiant pwrpasol hefyd ar gael
Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd | Word | Excel | Access | Powerpoint | Y We ac e-bost | Cwrs sylfaenol i ddechreuwyr | Adeiladu gwefan | Hyfforddiant, Gwybodaeth a Gwasanaethau Linux |Cyrsiau Arbennig, hyfforddiant un wrth un a hyfforddiant pwrpasol hefyd ar gael
Mae’r
holl gyrsiau TG a gynhelir yn switiau TG Hyfforddiant Powys yn grwpiau bychan
– nid oes mwy na 8 dysgwr fesul grwp – i sicrhau hyfforddiant
o safon uchel.
Er mwyn archebu lle neu holi am unrhyw gwrs TG Hyfforddiant Powys ffoniwch yn rhad ac am ddim: 0800 3280881 neu cliciwch ar y ddolen cysylltwch â ni am wybodaeth cysylltu, gan gynnwys ebost.
Mae’r holl brisiau a ddangosir ar gyfer cyrsiau grwp mewn canolfan Hyfforddiant Powys. Bydd rhaid gofyn am y pris ar gyfer hyfforddiant un wrth un, un i ddau neu hyfforddiant ar leoliad y cleientiaid.
Efallai y gellir cynnig gostyngiad ar gyfer grwpiau mawr neu bloclogi, cysylltwch â’r Ganolfan Hyfforddiant Powys dan sylw.
Swît Microsoft Office
Word - cynnwys y cwrs
Modiwl 1 – diwrnod llawn
Gofynion: Yn medru defnyddio llygoden ac yn meddu ar wybodaeth sylfaenol weithredol o’r bysellfwrdd a Windows.
- Golygfa’r Sgrin
- Ffont, Paragraff a fformatio tudalen
- Mewnoliadau Paragraffau a bylchu
- Prawf ddarllen dogfennau a golygu
- Ymylon, toriadau tudalen, pennyn a throedyn
- Fformatio Peintiwr
- Sillafu, gwirio gramadeg / gosod a Thesawrws
- Awtogywirio – diffodd, ychwanegu testun a graffigau
- Canfod a Newid
- Llwybrau Brys y Bysellfwrdd
Modiwl 2 – diwrnod llawn
Gofynion: Mae ychydig o brofiad yn angenrheidiol (gorau oll os ydych wedi astudio Modiwl 1 Word).
- Creu a defnyddio Tabiau
- Creu a defnyddio Tablau
- Creu Ffurflenni sydd wedi’u haddasu
- Creu a gosod postgyfuno (Llythyrau a Labeli ar gyfer Ffurflenni)
- Labeli amlenni (newydd)
- Graffigau – mewnosod lluniau, cloi
Modiwl 3 – diwrnod llawn
Gofynion: Defnyddiwr profiadol (gorau oll os ydych wedi dilyn Modiwl 1 Word)
- Creu steiliau
- Rhannu tudalennau i golofnau
- Defnyddio Amlinellu
- Toriadau i’r Rhannau
- Colofnau
- Templedi
- Siartiau
- Addasu Word – Bariau Offer, Dewislenni
Modiwl 4 – hanner diwrnod
Gofynion: Mae ychydig o brofiad yn hanfodol (gorau oll os ydych wedi astudio Modiwl 1 Word)
- Postgyfuno
- Ffurflenni Llythyrau
- Amlenni a Labeli
Excel - cynnwys y cwrs
Modiwl 1 – diwrnod llawn
Gofynion: Yn medru defnyddio llygoden ac yn meddu ar wybodaeth weithredol sylfaenol ynglyn â Thaenlenni.
- Y cysyniad o daenlenni, Manteision XL
- Gosodiad y sgrin, Bariau offer, Symud o gwmpas
- Cyfeirnodau’r celloedd
- Data – Mathau, Cofnodi, Dewis, Golygu a Dileu, Cofnodi dilyniannau
- Llwybrau byr y bysellfwrdd
- Fformwlâu - creu, defnyddio a chopïo
- Swyddogaethau - Defnyddio Auto-sum, ystadegol, y Dewin
- Cyfeirnodau Abosliwt
- Cyflwyniad
- Argraffu dogfennau
Modiwl 2 – diwrnod llawn
Gofynion: Mae ychydig o brofiad yn angenrheidiol (gorau oll os ydych wedi astudio Modiwl 1 Excel).
- Ailadrodd Cyfeirnodau Absoliwt
- Enwi a defnyddio celloedd a enwyd
- Nodi sylwadau yn y celloedd
- Rhesymeg Amodol
- Creu siartiau sydd wedi’u mewnblannu
- Cysylltu â chopïo rhwng taenlenni
- Creu fformwlâu 3D
- Defnyddio templedi
- Barrau Offer – Cyflwyniad i Addasu
Modiwl 3 – diwrnod llawn
Gofynion: Defnyddiwr profiadol (gorau oll os ydych wedi astudio Modiwlau Excel 1 a 2).
- Golwg cyffredinol ar restrau
- Didoli arfer
- Hidlo ac uwch hidlo
- Meini prawf cymhleth
- Didoli rhestrau sydd wedi’u hidlo
- VLOOKUP
- HLOOKUP
- CYFATEB A MYNEGAI
- Is- gyfansymiau - ac is-gyfansymiau y colofnau lluosog
- Didoli rhestrau’r is-gyfansymiau
- Is-gyfansymiau nythol
- Amlinella
- Dangos a chuddio manylion ac amlinelliad symbolau
- Creu strwythur gyda grwpiau o fanylion
Access - cynnwys y cwrs
Modiwl 1 – diwrnod llawn
Gofynion: Yn medru defnyddio llygoden ac yn meddu ar wybodaeth weithredol sylfaenol o raglenni Microsoft.
- Beth yw cronfa ddata?
- Data, Gwybodaeth a Chyfrifiaduron
- Cynllun y Gronfa Ddata
- Gorchmynion Microsoft Access
- Creu Cronfa Ddata Newydd
- Creu Strwythur Tabl Newydd
- Agor a Chau Tablau a chronfeydd data sydd wedi’u harbed
- Ychwanegu a dileu Meysydd mewn Tabl
- Fformatio’r meysydd mewn Tabl
- Addasu Lled y Colofnau ac Uchder y Rhesi
- Newid Trefn y Meysydd
- Beth yw Ymholiad?
- Meini Prawf Chwilio
- Ymholiad Creu a Didoli
- Ymholiad Didoli
- Arbed Dynaset
- Dewis Data drwy ddefnyddio Gweithredydd Rhesymegol
- Cynnwys Gwerthoedd a Meysydd sydd wedi’u cyfrifo
- Creu a Fformatio Adroddiad Newydd
- Pennyn a Throedyn
- Arbed, Agor ac Argraffu Adroddiad
- Labeli Postio
Modiwl 2 – diwrnod llawn
Gofynion: Cyfeiriwch at Fodiwl 1 – Os oes gennych wybodaeth am y meysydd hynny efallai y bydd Modiwl 2 yn addas (fodd bynnag gorau oll os ydych wedi astudio Modiwl Access 1).
- Cyflwyniad
- Rhai Diffiniadau
- Cysylltiadau’r Cronfeydd Data
- Ychwanegu, Fformatio a Dileu Meysydd o fewn Tabl
- Addasu Lled y Colofnau ac Uchder y Rhesi
- Newid trefn y Meysydd
- Gosod a Dileu'r Cysylltiadau Rhwng y Tablau
- Y Meini Prawf Chwilio a Chreu Ymholiad Newydd
- Didoli Data – Creu Ymholiad Didoli
- Arbed Ymholiadau a Dynasets
- Dewis Data gan ddefnyddio Gweithredydd Perthynol
- Dewis Data drwy ddefnyddio Gweithredydd Rhesymegol
- Creu Adroddiadau a Ffurflenni Newydd
- Ychwanegu ac Arbed Cofnodion Newydd
- Newid Cynllun y Ffurflen
- Rheolyddion Dewis, Ailfeintio a Symud
- Ychwanegu Pennyn a Label
- Gwella ei ddelwedd
- Ychwanegu Botymau Gorchymyn
PowerPoint - cynnwys y cwrs
Modiwl 1 – diwrnod llawn
Gofynion - sgiliau bysellfwrdd sylfaenol a gwybodaeth weithredol o Windows.
- Golwg gyffredinol o Graffigau Cyflwyno a’u defnydd
- Defnyddio swyddogaethau testun
- Defnyddio Word Art
- Defnyddio offer dylunio
- Mewnforio a chreu graffiau a thaenlenni
- Mewnforio a gweithio gyda graffigau a Clip Art
- Creu siartiau strwythurol
- Defnyddio templedi
- Golygu’r rheolwr sleidiau
- Gosod a chynnal y sioe sleidiau
Y We ac e-bost - cynnwys y cwrs
Modiwl 1 – diwrnod llawn
Cyrsiau ar wahân ar gyfer Y We neu e-bost am hanner diwrnod available
Gofynion: sgiliau bysellfwrdd a llygoden sylfaenol + gwybodaeth weithredol am Windows.
Adran Un Y We
- Hanes Byr
- Mynediad i’r We
- Cyfeiriadau’r We
- Chwilio am wefan
- Deall Hypergysylltiadau
- Cyfeiriaduron Hierarchaidd a Pheiriannau Chwilio
- Cyflymu
- Protocol Trosglwyddo Ffeiliau
- Firysau
Adran Dau ebost
- ebost
- Anfon negeseuon
- Atodi ffeiliau
- Derbyn eich e-byst
- Trefnu e-byst
- Hidlo e-byst
- Sefydlu’r Llyfr Cyfeiriadau
- Defnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau
Cwrs sylfaenol un diwrnod i ddechreuwyr am Ddiwrnod Llawn - cynnwys y cwrs
- Caledwedd yn erbyn Meddalwedd
- Cyflwyniad i Windows, Cychwyn a’r Bwrdd Gwaith
- Meistroli’r Llygoden a sgiliau bysellfwrdd hanfodol
- Cychwyn a Diffodd
- Creu dogfennau, Word Wrap, Paragraffau, Arbed Dogfen
- Golygu – Ailosod, Ychwanegu, Symud, Arbed
- Golygfeydd Explorer, Strwythur Coeden a Ffeilio
- Eiconau ac estyniadau ffeiliau ac agor ffeiliau
- Creu Ffolderi, Enwi Ffeiliau a Ffolderi
- Symud, Copïo, Dileu, Ailosod Ffeiliau
- Defnyddio Ystadegau’r Bar Statws
Cynllunio ac adeiladu gwefan - Diwrnod llawn
Gofynion: sgiliau bysellfwrdd a llygoden sylfaenol + gwybodaeth weithredol am Windows.
- http a html, esboniad sylfaenol
- Dylunio Gwefan a Gosodiad
- Manylion sylfaenol tudalen ar y We
- Deall fformatau graffig y We
- Mewnforio graffigau
- Creu testun a gofynion sylfaenol
- Defnyddio Tablau
- Gosod tagiau mewnol
- Gosod tagiau anghysbell
- Defnyddio anfon at: a gorchmynion rheoli eraill
- Creu Ffurflen
- CSS sylfaenol ar gyfer steilio a gosod
- JavaScript sylfaenol
- Defnyddio FTP i lwytho eich safle
Cyrsiau Arbennig, hyfforddiant un wrth un a hyfforddiant pwrpasol hefyd ar gael
Rheoli Ffeiliau – hanner diwrnod
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n arbennig i roi dealltwriaeth drylwyr i’r defnyddiwr o reoli ffeiliau, sut i ddidoli eich cofnodion yn effeithiol, ble y dylid a lle na ddylid arbed eich gwaith a sut i awtomeiddio systemau ffeilio.
Cyflwyno Dogfen – diwrnod llawn
Defnyddio Word ac Excel i greu dogfennau. Gan gynnwys cysylltu siartiau a thaflenni gwaith Excel i mewn i adroddiad yn Word, mewnosod clip-art a delweddau, amlinellu a gosod yr adroddiad mewn dull proffesiynol.
Cyrsiau sydd wedi’u haddasu
Gall Hyfforddiant Powys ddarparu cyrsiau sydd wedi’u haddasu i weddu i’ch anghenion yn yr holl gyrsiau uchod a nifer o rai ychwanegol. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’ch Canolfan Hyfforddiant Powys agosaf.
Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL)
Y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd yw’r cymhwyster ar gyfer Ewrop gyfan sy’n galluogi pobl i arddangos eu cymhwysedd mewn sgiliau cyfrifiadurol, ei amcanion yw:
- codi safon gyffredinol cymhwysedd mewn TG
- gwella cynhyrchiant yn y gwaith
- galluogi cyflogwyr i fuddsoddi’n fwy effeithiol mewn TG
- ac i sicrhau bod materion ymarfer gorau a materion ansawdd yn cael eu deall a’u rhoi ar waith
Sut mae’n gweithio?
Mae maes llafur ECDL wedi’i gynllunio i gynnwys prif gysyniadau cyfrifiaduro, ei gymwysiadau ymarferol a’u defnydd yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol. Mae’n cael ei rannu i saith modiwl, pob un y mae’n rhaid eu pasio cyn y gellir gwobrwyo’r dystysgrif ar gyfer y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd. Mae’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd yn agored i unrhyw un - waeth beth fo’u hoed, addysg, profiad neu gefndir.
Y Modiwlau yw:
Modiwl 1: Hanfodion defnyddiwr TG
Modiwl 2: Diogelwch ar gyfer defnyddwyr TG
Modiwl 3: Defnyddio e-bost a’r We
Modiwl 4: Meddalwedd cronfa ddata
Modiwl 5: Meddalwedd cyflwyniad
Modiwl 6: Meddalwedd taenlenni
Modiwl 7: Meddalwedd prosesu geiriau
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau profion ar-lein ar gyfer pob un o’r saith modiwl. Yn dilyn llwyddiant yn yr holl fodiwlau bydd tystysgrif ECDL yn cael ei gynhyrchu.
Mae modd i ddefnyddwyr alw heibio a chyflawni’r profion os ydynt yn dymuno. Maent yn fwy tebygol o ddewis cyrsiau sydd wedi’u seilio ar faes llafur ECDL.
Beth yw’r manteision?
Ar gyfer yr unigolyn?
Mae ECDL wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl yn y gwaith ac yn y cartref. Bydd yn cadarnhau i ddarpar gyflogwyr fod gan y person gymhwyster cydnabyddedig, perthnasol a diweddar a bydd yn gymorth i gynyddu cynefindra gyda’r dechnoleg a’u ddefnyddwyr.
Ar gyfer y cyflogwr?
Mae ECDL yn helpu i ddarparu tystiolaeth o allu darpar weithwyr mewn sgiliau cyfrifiadurol. Hefyd, bydd cwmni sy’n awyddus i hyfforddi ei weithlu yn awyddus i sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario ar gyrsiau yn arian a wariwyd yn dda. Mae’r doreth o wahanol gyrsiau sy’n honni gwahanol bethau, yn aml heb unrhyw dystiolaeth wrthrychol, yn ddewis hynod anodd i gyflogwyr ac unigolion fel ei gilydd.
Sut y mae pobl yn cael eu profi?
Gellir cynnal y profion mewn unrhyw ganolfan brawf sydd wedi’i harchwilio.
Pam fod ECDL mor effeithiol?
Nid yw ECDL yn debyg i unrhyw gymhwyster arall - er mae’n defnyddio agweddau positif y gorau. Mae’n destun i fod y cymhwyster cydnabyddedig mwyaf eang ym maes defnydd cyfrifiaduron y gweithle, yn rhannol oherwydd ei fod wedi’i dargedu ar gyfer sbectrwm cyfan y boblogaeth, ac yn rhannol oherwydd y gefnogaeth a’r monitro gan y sefydliadau sydd y tu cefn iddo.
Y Maes Llafur
Cynlluniwyd y maes llafur gan banel o arbenigwyr Ewropeaidd. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson er mwyn sicrhau ei berthnasedd i’r byd gwaith a’r cynnydd mewn technolegau ac arferion.
Achrediad
Mae’r achrediad o’r canolfannau prawf yn cael ei reoli’n llym. Cynhelir archwiliadau cyson a thrwyadl o’r canolfannau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r maes llafur a phriodoldeb y drefn brofi. Pa bynnag ganolfan y bydd unigolyn yn ei ddewis i sefyll y profion, bydd safonau a chydymffurfiad yn cael eu gwarantu.
Cydymffurfiad
Cydymffurfiad gyda NVQ - cynlluniwyd ECDL i gydymffurfio gyda chymwysterau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys NVQ a phrofion bysellfwrdd sefydledig.
Mae’r sefydliadau sy’n cefnogi ECDL yn cynrychioli sbectrwm llawn diwydiant a’r byd academaidd. Hefyd, mae’n cael ei gefnogi’n llawn gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd o ganlyniad yn sicrhau safonau a lefelau o ansawdd drwy Ewrop gyfan. Rheolir y gweithrediad o’r Dystysgrif Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd yn y DU gan y Gymdeithas Gyfrifiadurol Brydeinig.
Mae Hyfforddiant Powys yn ganolfan gofrestredig ar gyfer darparu'r cymhwyster newydd Tystysgrif Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd. Am ragor o fanylion cysylltwch â’ch Canolfan Hyfforddi Powys agosaf.
Hyfforddiant, Gwybodaeth a Gwasanaethau Linux
Mae Linux yn fath o System Gweithredu Unix gyda rhyngwyneb graffigol tebyg i Windows neu Mac OS.
Yn ystod y bum mlynedd ddiweddaf mai system Linux wedi tyfu o fod yn system a enillodd ei lle ac a ddefnyddiwyd gan fwyaf gan arbenigwyr a phobl frwdfrydig, i fod yn amgylchfyd cyfrifiadurol masnachol dichonadwy, boed ar y gweinydd, neu’n fwy diweddar, ar y bwrdd gwaith. Yn wir, mae mwy na 80% o weinyddwyr y we a 60% o weinyddwyr cynhyrchu yn defnyddio rhyw fath o elfen o Linux fel ei system gweithredu.
Mae nifer o raglenni ar gael ar gyfer y llwyfan Linux, gan gynnwys rhaglenni Office a’r rhan fwyaf o offer busnes arall. Mae’r offer Office ar Linux yn cyd-fynd ag offer Microsoft Office gyda rhaglenni megis OpenOffice.org sy’n medru arbed a darllen fformatau Microsoft Office.
Mantais fwyaf Linux a rhaglenni sydd wedi’u seilio ar Linux, boed ar y gweinydd neu ar y Bwrdd Gwaith, yw eu bod wedi’u rhyddhau ar Drwydded Gyhoeddus Gnu (GPL), sef system sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r rhaglenni yn rhad ac am ddim neu’n destun i un tâl unigol (nid oes ffioedd trwydded aml-ddefnyddiwr)
Am ragor o wybodaeth ynglyn â Linux a sut y gall helpu eich busnes cysylltwch â Chanolfan Hyfforddiant Powys yn Llandrindod neu ffoniwch Rhadffôn: 0800 3280881

