GDDP - Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Amcan
y brentisiaeth hon yw sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth
hanfodol i ofalu am blant. Mae’r sector gofal plant yn un o’r
prif gyflogwyr yng Nghymru, ac felly mae angen sicrhau bod y gweithwyr o
fewn y sector wedi’u hyfforddi’n llawn ac yn gymwysedig.
"Mae Ysgol Crossgates... yn cydnabod y manteision positif... nid ydym yn diystyru gwerth yr hyn y mae’r [dysgwyr] yn eu cyfrannu i’n hysgol gyda’u hamrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth. Maent wedi... eu hyfforddi’n dda yn y sgiliau sydd eu hangen, yr wybodaeth a gyrhaeddwyd a’r patrymau ymddygiad i fod yn fodel rôl dda i’n plant. Maent o ganlyniad yn adnodd gwerthfawr i ni. Mae’r brwdfrydedd sydd ganddynt wrth ddilyn eu cymhwyster lefel 3 neu lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn golygu bod gan ein plant ni bobl sy’n ymroddedig i weithio gyda nhw, sy’n galluogi’r plant i gael y cyfleoedd gorau posib." - Susan Meeke, Pennaeth, Ysgol Gynradd Crossgates
Sylwadau
gan y ddysgwraig Jan Hadfield:
"Cyflawnais NVQ mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant¸ a derbyniais
gefnogaeth barhaus ac anogaeth gan fy Aseswr drwy gydol yr amser. Arweiniodd
y gefnogaeth hon at newid mewn gyrfa, gan i mi fynd ati i gwblhau cymhwyster
i’m galluogi i fod yn Aseswr. Pan ddaeth cyfle i ymuno â Thîm
Aseswyr Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Hyfforddiant Powys, es amdani heb
oedi.
Gan i mi fod ar ochr arall yr hyfforddiant fel petai, rwy’n ymwybodol o ba mor frawychus y mae’n medru bod ar adegau, ac o’r balchder a’r cyrhaeddiad a deimlir nid yn unig gan y dysgwyr ond hefyd gan yr Aseswyr wrth i’r dysgwyr adeiladu ac ennyn hyder a sgiliau wrth iddynt lwyddo yn eu cymhwyster."
Er mwyn cyflawni prentisiaeth bydd angen i chi gwblhau’r canlynol:
City & Guilds
- Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Sgiliau Hanfodol Cymru:
- Cymhwyso Rhif
- Cyfathrebu
Bydd staff cyfeillgar a chymwysedig yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, asesiadau parhaus ac arsylwadau ymarferol ac aseiniadau i chi. Mae’n ofynnol cael portffolio o’ch tystiolaeth.


