Dewch o hyd i ni ar Facebook. Dilynwch ni ar Twitter.

Camau at Waith – datblygu pobl, manteisio i’r eithaf ar eu potensial.

Arwyddbost yn dangos: cyflogaeth, cymwysterau a phrofiad gwaith.Oedolion Di-waith 18+ ac Unig Rieni

Os ydych yn 18 oed neu drosodd ac yn derbyn lwfansau’r Adran Gwaith a Phensiynau mae’r rhaglen hon sy’n canolbwyntio ar waith yn anelu at roi’r sgiliau a’r hyder y bydd arnoch eu hangen i chi i ymgeisio am a chael gwaith.

Gallwn eich helpu chi i’ch gwneud yn fwy addas i’ch cyflogi a helpu gyda’ch datblygiad personol, a fydd yn cynnwys y cyfle i wirfoddoli yn y gymuned.

Gallem eich helpu gyda:

Byddwch yn gwella’ch siawns o gael eich cyflogi trwy ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Dysgwr yn derbyn tystysgrif gan y Rheolwr Cyffredinol Aprille Saunders.
“Helpodd fy nghymhwyster ECDL fi i gael swydd yn siop newydd Tesco.”

SUT Y BYDDWCH YN CAEL EICH TALU

Byddwch yn derbyn unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, a swm ychwanegol am fynychu’r hyfforddiant.

PRESENOLDEB

Bydd angen i chi fynychu’r dysgu am isafswm o 16 awr yr wythnos (heb gynnwys un egwyl am bryd o fwyd bob dydd). Ond pennir hyn gan eich amgylchiadau personol a’ch gofynion o ran hyfforddiant / profiad gwaith.

Gwyliau

Pan ydych ar y rhaglen mae gennych hawl i 2 ddiwrnod o wyliau ar gyfer pob mis calendr. Mae gennych hawl hefyd i wyliau statudol fel Gwyliau Banc.

Mae Dysgu Seiliedig ar Waith wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy
Lywodraeth Cynulliad Cymru

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop - cliciwch i ymweld â gwefan ESF.

Brig y dudalen