Prentisiaethau - Datblygu pobl. Uchafu potensial.
Prentisiaethau Modern | Diploma Sgiliau Modern ar gyfer Oedolion
Mae
Hyfforddiant Powys yn cynnig Prentisiaethau Modern ar gyfer pobl ifanc ac
oedolion. Mae Dysgu Seiliedig ar Waith wedi’i ariannu’n rhannol
gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch â’r Ganolfan Hyfforddiant Powys sydd agosaf atoch
chi i drafod eich opsiynau.
Prentisiaethau
Prentisiaethau Modern Sylfaenol (PMS)
Mae hon yn rhaglen ar gyfer pob oed. Mae dysgwyr yn anelu at NVQ Lefel 2 ac yn cyflawni hyfforddiant er mwyn ennyn Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Dechnegol sy’n addas ar gyfer y cymhwyster yn gyffredinol. Mae’r dystiolaeth ar gyfer y cymwysterau fel arfer yn cael eu hennyn yn y gweithle gyda hyfforddiant yn cael ei gynnal yn ein lleoliad ni ein hunain neu mewn coleg. Fel arfer nid oes angen cyfraniad tuag at y dysgu.
Prentisiaethau Modern (PA)
Fe’u cynlluniwyd fel dilyniant posib i’r Prentisiaethau Modern Sylfaenol ar gyfer pobl sydd â’r gallu neu fel cymhwyster i bobl gyflogedig. Bydd y dysgwyr yn anelu at NVQ Lefel 3 gan gyflawni amrywiaeth o Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Dechnegol sy’n addas ar gyfer y cymhwyster yn gyffredinol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cynllun hwn fod mewn gwaith ac yn meddu ar gytundeb cyflogaeth. Ni fydd angen cyfraniad gan y cyflogwr tuag at y gost, yr hyfforddiant na’r asesiad.
Diploma Sgiliau Modern (DSM)
Mae’r rhaglen DSM yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr wellau eu sgiliau a gwybodaeth ar lefel 4, i annog ymrwymiad i ddysgu gydol oes.


