Dewch o hyd i ni ar Facebook. Dilynwch ni ar Twitter.

Gweinyddiaeth Busnes

Amcan y brentisiaeth hon yw cyfrannu at y sgiliau, gwybodaeth a pherfformiad cyffredinol Busnes a Gweinyddiaeth. Mae’n rhaid i bob sefydliad, yn fach neu’n fawr, gael staff cymwys sy’n medru darparu cefnogaeth weinyddol sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediad y busnes. Mae’n rhaid i’r gweithlu heddiw, yn fwy nag erioed o’r blaen, fod wedi’u hyfforddi ac yn gymwysedig i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu i’w lawn botensial.

"Rydym yn ddatblygwr adeiladau sydd wedi’i leoli yng Nghanolbarth Cymru, ac o’r farn bod y bu’r hyfforddiant o fudd i ddiweddaru cymwysterau’r gweithwyr ac effeithiolrwydd eu gwaith heb unrhyw gost i’r gweithiwr na’r cyflogwr. Rwy’n argymell yn gryf y dull hwn o ddysgu a datblygu." - Mark Sheppard, Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Sheppard Cyf.

Sylwadau gan y ddysgwraig, Carol Baker:
Roeddwn ychydig yn betrusgar cyn dechrau fy NVQ Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddiaeth gan nad oeddwn wedi ennyn unrhyw gymwysterau ffurfiol wrth adael addysg ond unwaith i mi gyfarfod â fy nhiwtor, Jan, tawelodd hi fy meddwl ac esbonio’r broses. Mwynheais y profiad yn fawr ac roeddwn yn gwbl gyffrous wrth ennyn y tystysgrifau. Roedd cwblhau lefel 2 wedi fy ysgogi i ddechrau lefel 3. I fod yn onest, ro’ ni methu aros i gychwyn!

Roedd y gefnogaeth a dderbyniais gan Hyfforddiant Powys a chydweithwyr yn wych ac nid oeddwn yn teimlo fy mod yn gwneud hyn ar fy mhen fy hun.

Gan fy mod bron â chwblhau lefel 3 mae wedi fy ysbrydoli i fentro ymhellach a byddaf yn cychwyn cwrs gan y Brifysgol Agored cyn hir gyda’r bwriad o ennyn Gradd Sylfaen mewn Technoleg Gwybodaeth Busnes.”

Er mwyn ennyn prentisiaeth bydd angen i chi gwblhau’r canlynol:

EDI

City & Guilds

Sgiliau Hanfodol Cymru:

Bydd staff cyfeillgar a chymwysedig yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, asesiadau parhaus ac arsylwadau ymarferol i chi. Mae’n ofynnol cael portffolio o’ch tystiolaeth.

Mae Dysgu Seiliedig ar Waith wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop - cliciwch i ymweld â gwefan ESF.

Brig y dudalen